Sdimbydineud

Ciw-restr ar gyfer Cyfreithiwr y Sir

(Cân) Sdimbydineud-i-neud
 
(Cynghorydd 3) Sdim hawl da ni gofyn cwestiwn i swyddog?
(0, 5) 309 Mr Swyddog, gai'ch hatgoffa chi fod dim rheidrwydd arnoch chi i ateb cwestiwn y cynghorydd.
(Swyddog) Ie, wi'n gwbod, ond...
 
(0, 5) 312 Ac ma rhaid i mi bwysleisio wrthoch chi, syr/madam – yn gwbl ddi-flewyn ar dafod – dyma'r tro olaf y byddwch yn gofyn cwestiwn o swyddog yn y siambr hon, ydych chi'n deall.
(Cynghorydd) Ie, ond beth os o's swyddog yn y'n camarwain?
 
(Cynghorydd) Yn gweud pethe sydd ddim yn wir.
(0, 5) 315 Ddim yn...!
(0, 5) 316 Ydych chi, gynghorydd, yn ystyried yr hyn y'ch chi newydd ei ensynio.
(0, 5) 317 Ei bod hi'n bosib i Swyddog o'r cyngor sefyll yn y siambr hon â'r bwriad i gam-arwain aelodau etholedig?